Mae’r cwrs yn rhedeg o fis Hydref i fis Mawrth, fel bod tyfwyr wedi gorffen y prif dymor ac yn gallu ymgymryd â’r hyfforddiant hwn mewn pryd i sefydlu CSA y tymor canlynol! Efallai y byddwch chi am ddilyn y cwrs i’ch helpu i benderfynu a yw CSA yn addas i chi.
Bydd pob pwnc sesiwn ar-lein yn para 2 awr a byddwn yn cynnal y sesiynau hyn tua 3 waith y mis gyda cyfanswm o 15 sesiwn.
Mae’r sesiynau yn gyfle i ni fanylu mwy ar bwnc neu wahodd siaradwyr gwadd ag arbenigedd penodol. Maen nhw hefyd yn gyfle i fyfyrwyr rannu syniadau a chodi cwestiynau.
Cyn pob sesiwn byddwn yn anfon rhestr o adnoddau astudio atoch. Bydd y rhain yn gymysgedd o dudalennau gwe, ffilmiau byrion a dogfennau. Ar gyfer pob sesiwn byddwn hefyd yn rhoi aseiniad i chi i’w gwblhau. Bydd yr aseiniadau hyn yn sail i’r trafod pan fyddwn ni’n cwrdd.
Er bydd y sesiwn ar-lein yn para 2 awr, rydym yn awgrymu y bydd angen i chi neilltuo rhwng 2 a 4 awr a mwy yr wythnos i weithio ar eich cynlluniau CSA wrth i ni eich tywys trwy bynciau’r sesiynau. Po fwyaf o amser y byddwch yn treulio arnynt, po fwyaf y byddwch yn elwa!
Yn ddelfrydol, er mwyn ychwanegu at y cwrs byddwch yn derbyn mentora gan amrywiaeth o sefydliadau. Byddwn yn ceisio eich helpu i gael hyd i’r cymorth ychwanegol hwn.
Bydd tiwtor y cwrs (Tom) hefyd ar gael hanner diwrnod bob wythnos i ateb e-byst a sgwrsio dros y ffôn.
Cydlynydd y Cwrs – Tom O’Kane
- 7 mlynedd yn sefydlu a rhedeg Cae Tân CSA
- 30 mlynedd o brofiad mewn ffermio cynaliadwy
- BSc Ffermio Organig – Aberystwyth
- Tystysgrif Ryngwladol mewn Ffermio Biodynamig – Lynette West, NSW, Awstralia
- Tystysgrif mewn ‘Cyd-destun Dynol Ffermio Organig’ – KVL Copenhagen
- 10 mlynedd o brofiad o fentora tyfwyr cymunedol
- Profiad o sefydlu a rhedeg rhaglenni hyfforddiant gerddi cymunedol
Ffioedd Cwrs £400
(Nid ydym am i’r gost fod yn rhwystr i ddysgu, felly rhowch wybod i ni os yw hyn yn broblem. Ar yr un pryd, mae angen i ni wneud i’r cwrs dalu amdano’i hun!)
I gadw lle neu i gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch tom@caetancsa.org
“Roedd hyfforddiant yn Cae Tân wedi rhoi sylfaen gadarn i mi redeg CSA. Roedd y cymorth a’r gefnogaeth gan Cae Tân wrth sefydlu Big Meadow yn werthfawr iawn ac roedd wedi gwneud y broses sefydlu yn glir ac yn hygyrch gan roi hyder i mi ddechrau arni.” Abbi Mason
Gan weithio o’n profiadau ni ein hunain, byddwn ni’n rhoi trosolwg i chi o’r prif faterion y bydd rhaid i chi eu hystyried er mwyn sefydlu a rhedeg eich CSA yn llwyddiannus.
Pynciau’r Sesiynau
- Beth yw CSA?
- Oes gennych y sylfaen sgiliau?
- Canfod ac asesu ansawdd tir
- Strwythurau cwmni CSA
- Cynllunio busnes
- Offer a chyfarpar ar gyfer graddfeydd amrywiol
- Ariannu’r sefydlu
- Materion cynllunio ar gyfer ysguboriau, polydwneli, parcio a thoiledau
- Cynllunio cnydau a chynllunio safle
- Tyfu am 4 tymor a storio cnydau – curo’r bwlch llwglyd!
- Denu gwirfoddolwyr
- Denu a chadw aelodau / rheoli aelodaeth
- Rheoli’ch cyllid drwy’r tymor
- Croesawu hyfforddeion a’u helpu i symud ymlaen – trosglwyddo’ch gwybodaeth
- Cysylltiadau gwaith da
Ariannwyd y prosiect hwn yn rhannol gan Gronfa Datblygu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru