2nd Rhagfyr 2024 Tom O'Kane

Cyfle am swydd gyda Cae Tan

Rydym yn chwilio am Arweinydd Gwirfoddolwyr / Tyfwr Cynorthwyol i ymuno â’n tîm. Mae’r swydd hon yn cefnogi prosiect newydd o’r enw ‘Lle i Dyfu – Space to Grow’ sydd wedi’i ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol tan Ionawr 2028. Nod y prosiect yw cysylltu Cae Tan â grwpiau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol yn Abertawe; ac i ddod â mwy o bobl i ymgysylltu â’r cae i hybu llesiant a datblygu sgiliau newydd.

Byddwch yn ymuno â’n AGG ac yn gweithio ochr yn ochr gyda’n dau brif dyfwr, yn tyfu llysiau trwy gydol y flwyddyn i gyflenwi ein haelodaeth o 140 o gartrefi. Byddwch hefyd yn arwain gwirfoddolwyr a grwpiau mewn gweithgareddau fferm.

Bydd disgwyl i’r ymgeisydd gymryd rhan ym mhob agwedd o reoli a gweithio ein AGG 8 erw, gan dyfu amrywiaeth o gnydau twnnel polythen a chae yn organig drwy’r flwyddyn. Gan gynnwys pob agwedd o gynllunio cnydau, hau, chwynnu, paratoi tir, cynaeafu, a phacio a storio cynnyrch. Mae Cae Tan yn AGG deinamig ac felly mae angen tyfwr deinamig a phrofiadol.

Fel yr Arweinydd Gwirfoddolwyr bydd disgwyl i chi arwain sesiynau grŵp rheolaidd yn y cae a chydlynu diwrnodau gwirfoddoli, yn ogystal â gweithio ochr yn ochr â’r ddau brif dyfwr mewn dyletswyddau a chyfrifoldebau fferm gyffredinol.

Byddwn hefyd yn cyflogi Cydlynydd Gwirfoddolwyr i gydlynu a chyfathrebu gyda’r grwpiau rydym yn bwriadu dod i’r cae. Bydd yr Arweinydd Gwirfoddolwyr yn gweithio’n agos gyda’r Cydlynydd Gwirfoddolwyr i gyflwyno’r prosiect yn llwyddiannus. Bydd angen i’r Arweinydd Gwirfoddolwyr weithredu ac arwain gweithgareddau cae, a chymryd rhan mewn rhywfaint o waith monitro sylfaenol, adrodd a marchnata ar y prosiect a digwyddiadau cysylltiedig. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod cofrestrau’n cael eu cadw a’u storio ar gyfer pob sesiwn a, lle bo’n briodol, bod holiaduron llesiant yn cael eu cwblhau a bod ffotograffau’n cael eu tynnu.

Mae mwy o wybodaeth yn y disgrifiad swydd yma.